Fe gyhoeddodd cwmni cyhoeddi Media Wales heddiw mai Catrin Pascoe o Gaerdydd fydd yn cymryd yr awennau fel Golygydd newydd y Western Mail ar 1 Mawrth 2016. Hi fydd y wraig gynta’ i fod wrth y llyw ers i’r rhifyn cynta’ o’r papur dyddiol gael ei gyhoeddi ym mis Mai 1869.

Fe fydd Catrin Pascoe yn gadael ei rôl bresennol yn Olygydd newyddion dyddiol y South Wales Echo, lle mae hefyd wedi cyfrannu at wasanaethau newyddion Wales Online.

Tryst Williams fydd yn cymryd ei lle yn Olygydd newydd y South Wales Echo.

Paul Rowland yw Golygydd newydd Wales Online, wrth i Ceri Gould gymryd ei sedd yn Olygydd Trinity Mirror South East.