Alex Jones
Mae ffan dros ben llestri i’r gyflwynwraig o Gymraes, Alex Jones, wedi cael ei wahardd o bencadlys y BBC yn Llundain.

Roedd Shane Goldsmith, 44, wedi bod yn bombardio Alex Jones, 38, gyda negeseuon Trydar am 17 mis, yn dweud ei fod mewn cariad â hi. Roedd wedi bod yn aros y tu allan i Broadcasting House yn Portland Place, Llundain hefyd, er mwyn gweld cyflwynwraig rhaglen gylchgrawn nosweithiol The One Show er mwyn cael datgan ei gariad tuag ati.

Ond heddiw yn Llys Ynadon Westminster, fe gafodd Shane Goldsmith ei wahardd o wneud unrhyw gysylltiad â’r gyflwynwraig deledu, ei phartner Charlie Thomson, na’i rhieni, Alun a Mary Jones. Mae hefyd wedi’i wahardd o Broadcasting House ac unrhyw le arall lle bydd Alex Jones yn gweithio.

Fe gafodd Shane Goldsmith, sydd heb gyfeiriad parhaol, ei gyhuddo’n ffurfiol o harasio, rhwng y dyddiadau Ebrill 2014 a Medi 2015.