Mae Cyngor Conwy yn ystyried lleihau nifer y casgliadau sbwriel i unwaith bob pedair wythnos, mewn ymgais i arbed arian.

Fe fydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cwsmeriaid yn cyfarfod brynhawn heddiw i drafod os bydd yn argymell y newid i gyfarfod llawn nesaf y cyngor.

Os caiff y cynllun sêl bendith, gallai drigolion Conwy ddisgwyl cael eu biniau gwastraff ac ailgylchu wedi’u casglu unwaith bob mis yn hytrach nag unwaith bob pythefnos.

Yn ôl y Cyngor, byddai lleihau nifer y casgliadau sbwriel yn lleihau costau ac yn arwain at gymdeithas fwy cynaliadwy.

Adroddiad 

Dywed adroddiad y pwllgor y byddai’r cyngor yn “rhoi cymorth a gwybodaeth hanfodol i drigolion er mwyn iddynt ddeall pam y mae lleihau gwastraff ac ailgylchu yn fater pwysig i Gonwy a’r gymdeithas gyfan,” os bydd y newid yn cael ei gyflwyno.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r cyngor yn ailgylchu 59% o’i holl wastraff.

Y targed statudol ar gyfer 2015/16 yw 58%, ond dywed y cyngor bod llawer o waith i’w wneud eto i gyrraedd y targed statudol dros dro nesaf o 64% erbyn 2019/20.

Y targed statudol terfynol yw 70% erbyn 2024/25, ac medd yr adroddiad, ni fydd Conwy yn cyrraedd ei dargedau ailgylchu statudol heb ystyried dull mwy cynaliadwy o gasglu gwastraff ac ailgylchu.

Angen annog mwy o ailgylchu

Cafodd Arolwg Ailgylchwch Fwy ei gynnal yn ystod mis Medi 2015, cafwyd 11,212 o atebion, ac mae’r argymhelliad hwn yn dod o’r arolwg hwnnw.

Dywedodd 60.6% o’r rheiny a ymatebodd fod eu bin olwynion gwastraff gweddilliol yn hanner llawn neu’n llai na hanner llawn ar ddiwrnod casglu.

Roedd 55.4% o bobol yn dweud y bydden nhw’n gallu ymdopi petai’r bin olwynion yn cael ei gasglu’n llai aml os byddai camau ychwanegol yn cael eu hystyried, fel gwasanaeth casglu clytiau ar wahân, casgliadau ailgylchu ychwanegol ar adegau prysur, a biniau ychwanegol ar gyfer teuluoedd mawr.

Roedd 97% o’r rheiny a ymatebodd yn cytuno y dylai’r Cyngor gymryd camau i annog mwy o bobol i ailgylchu er mwyn gwario llai o arian ar gostau tirlenwi.