Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno i wrthwynebu adeiladu hyd at 41,000 o dai yn y brif ddinas o dan y Cynllun Datblygu Lleol sydd wedi’i gyflwyno i Gyngor Caerdydd.

Mae’r ymgeisydd Cynulliad dros Orllewin Caerdydd a Chanolbarth De Cymru, Neil McEvoy, wedi rhybuddio dros anrhefn lwyr ar y ffyrdd yn dilyn cymeradwyo’r Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’r cyfarfod, Cynllun Datblygu Lleol At Ba Gost yn gyfle i’r Cynghorydd Neil McEvoy i rybuddio yn erbyn y cynllun a fydd yn “difetha” rhannau o Gaerdydd, meddai ef.

Cafodd y cynllun a fydd yn sail i gynlluniau datblygu tai Caerdydd tan 2026, ei basio gan gynghorwyr Llafur y brif ddinas ddiwedd mis Ionawr, ond bu gwrthwynebiad gan gynghorwyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

‘Traffig, llifogydd, llygredd awyr’

Dywedodd Neil McEvoy, y byddai’r cynllun yn arwain at dagfeydd traffig, llifogydd mewn rhai ardaloedd, dinistrio mannau gwyrdd y ddinas ac achosi llygredd awyr.

Roedd cynlluniau gwreiddiol y Cyngor yn cynnwys ‘Gwregys Gwyrdd’ a fyddai’n gosod darpariaethau i ddiogelu mannau gwyrdd ger y ddinas o ogledd yr M4.

Ond roedd Arolygydd y cynllun wedi ffafrio’r ddarpariaeth a fyddai’n diogelu mannau gwyrdd y ddinas ‘ar lefel is’, sydd wedi ennyn gwrthwynebiad.

Dywedodd y Cyngor y byddai adeiladu ar rai safleoedd gwyrdd i adeiladu nifer y tai sydd eu hangen ar Gaerdydd yn anochel.

“Bydd dwy bleidlais i Blaid Cymru ym mis Mai yn bleidleisiau i atal y Cynllun Datblygu Lleol yn ei fformat cyfredol,” meddai Neil McEvoy.

“Mae Plaid yn ganolog yn ymrwymedig i ddatrys y llanast gan y Llywodraeth. Rydym yn ystyried cynnal adolygiad barnwrol ar benderfyniad yr Arolygydd Cynllunio, drwy ddefnyddio’r Ddeddf Llesiant y Dyfodol i herio beth sy’n digwydd.”

‘Gwneud darpariaethau’n cyn adeiladu’

Dyw Cyngor Caerdydd ddim yn derbyn honiadau Neil McEvoy y byddai’r tai yn arwain at dagfeydd traffig gan fod “darpariaethau” i gefnogi’r tai newydd wedi cael eu cynnwys yn y cynllun.

“Mae’r cynllun yn golygu bod unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei gyflwyno’n raddol a bod seilwaith (gwasanaethau fel ysgolion a ffyrdd) yn cael eu cynnwys,” meddai llefarydd.

“Bydd y cynllun yn rhoi rheolaeth lawn i’r Cyngor dros ddatblygwyr ac yn sicrhau bod darpariaethau’n cael eu gwneud cyn adeiladu unrhyw ddatblygiad.”

Ymateb y cyngor 

“Yr unig drychineb sy’n wynebu Caerdydd, fyddai ddim cael cynllun o gwbl,” meddai’r Cynghorydd Llafur Ramesh Patel, yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd.

“Bydd angen i bob cais cynllunio sy’n cael eu gwneud o dan y Cynllun Datblygu Lleol gael cynllun seilwaith i sicrhau ffyrdd gwell gyda lonydd bysiau, seiclo a llwybrau cerdded gwell, a bod cyfleusterau cymunedol yn rhan o’r datblygiad.”