Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud nad yw’n fodlon o gwbl yn dilyn gêm gyfartal 16-16 yn erbyn Iwerddon yn Nulyn brynhawn Sul.

Ar ddiwedd yr ornest, heriodd Gatland ei dîm i ddechrau’n gryfach pan fyddan nhw’n croesawu’r Alban i Gaerdydd ddydd Sadwrn nesaf.

“Dydyn ni ddim yn fodlon ar y canlyniad o gwbl. Erbyn meddwl, wnaethon ni ddim dechrau’n dda am yr 20 munud cyntaf ond yna fe ddaethon ni’n ôl i mewn i’r gêm, a chael y gorau o ran tiriogaeth a meddiant.

“Mae’n bosib y dylen ni fod wedi dod i ffwrdd gyda’r fuddugoliaeth, ond wna i ddim tynnu sylw oddi ar Iwerddon, ac efallai bod gêm gyfartal yn adlewyrchiad teg.”

Yn dilyn perfformiad campus yn y sgrym, yn enwedig yn y rheng flaen lle serennodd y prop Rob Evans, cyfaddefodd Gatland ei fod yn gobeithio cael caniatâd i gau to Stadiwm Principality yr wythnos nesaf.

“Ry’n ni wedi gweithio’n galed ar ein sgrym dros y 12 mis diwethaf, ac ro’n i’n meddwl bod ein sgrym ni’n rhagorol.

“Roedd yn un agwedd ar y gêm ro’n i’n credu ein bod ni wedi dominyddu. Gwnaeth y rheng flaen jobyn da iawn, a’r bois ddaeth oddi ar y fainc hefyd.

“Os ydyn ni’n lwcus, efallai y bydd yr Alban yn cytuno i gau’r to ac fe allwn ni fynd allan a chwarae rhywfaint o rygbi.”

“Rhaid ennill pob gêm gartref”

Dywedodd y capten Sam Warburton fod rhaid i Gymru ennill pob gêm gartref – yn erbyn yr Alban, Ffrainc a’r Eidal – er mwyn bod mewn sefyllfa i ennill y Bencampwriaeth ar ddiwedd y gystadleuaeth.

“Hyd yn oed ar ôl i ni golli Dan (Biggar), wnaeth hynny ddim tarfu arnon ni’n ormodol, gyda Rhys (Priestland) yn dod ymlaen a gwneud yn dda.

“Mae gyda ni dair gêm gartref allan o bedair nawr, ac mae’n rhaid i ni ennill y gemau hynny.

“Doedd dim peryg y bydden ni wedi tanbrisio Iwerddon. Mae Iwerddon bob amser yn un o’r timau rhyngwladol caletaf.

“Mae’n un o’r gemau caletaf y byddwch chi’n chwarae ynddi. Ni fydd yr un Cymro fyth yn tanbrisio Iwerddon.”

‘Rhwystredigaeth’

Wedi i Rhys Priestland gicio cic gosb hwyr i roi llygedyn o obaith i Gymru sicrhau’r fuddugoliaeth, mae’r canolwr Jamie Roberts wedi cyfaddef fod y tîm yn teimlo’n rhwystredig mai gêm gyfartal gawson nhw yn y pen draw.

“Wedi 76 o funudau, roedden ni wedi ennill y gêm, ond fe wnaethon ni’n wael ac roedd hynny wedi rhoi triphwynt iddyn nhw.

“Pe bai’r bêl wedi glanio yn 22 Iwerddon, roedd y gêm ar ben. Felly mae hynny’n siomedig.

“Rhaid i chi edrych ar ddigwyddiadau mawr mewn gemau sbo, ac fe fyddwn ni’n edrych yn ôl ar hynny a chicio’n hunain nad oedden ni wedi mynd ymlaen i ennill y gêm honno.”