Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am ddyn 36 oed sydd wedi mynd ar goll o’i gartref yn Aberpennar.

Dydy Ian Campbell ddim wedi cael ei weld ers dydd Gwener.

Dylai unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am ei ddiflaniad roi gwybod i’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.