Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi addo rhoi hwb i fusnesau Cymru drwy godi lefelau caffael cyhoeddus pe bai ei phlaid yn ennill grym yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Ei gobaith yw codi lefelau caffael cyhoeddus fel eu bod yn nes at lefelau’r Almaen a Ffrainc, lle mae 98% o gytundebau’n cael eu hennill gan gwmniau o’r gwledydd hynny.

O dan arweiniad Llywodraeth Cymru’n Un rhwng 2007 a 2011, cododd lefelau caffael i 52%, o’i gymharu â 35% yn 2004.

Fe aeth y ffigwr i fyny 3% o dan y Llywodraeth Lafur bresennol ers 2012.

Nod Plaid Cymru yw cyrraedd lefel o 75%, a chreu 2,000 o swyddi ar gyfer pob 1% o gynnydd yn y lefel caffael cyhoeddus.

Mewn datganiad, dywedodd Leanne Wood: “Mae hi’n amlwg fod Cymru angen mwy o swyddi a gwell swyddi.

“Dylai gwella lefelau caffael cyhoeddus lleol i wneud i arian cyhoeddus weithio’n well i bobl yma yng Nghymru fod yn beth amlwg i’w wneud.

“Mae’n ddirgelwch pam fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi esgeuluso’r cyfle hwn i gefnogi cwmniau cartref a chreu cyfoeth yng Nghymru. Ni fyddai llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru yn gwneud yr un camgymeriad.

“Mae Plaid Cymru yn cydnabod gwerth mentrau bach a chanolig i’r economi Gymreig. Rydym eisiau i’r busnesau hynny weithredu fel catalydd i adferiad economaidd.”

Ychwanegodd Ms Wood:

“Nid oes dim sy’n anochel am Gymru. Nid oes rhaid i ni aros ar waelod pob tabl ffyniant yn y DU. Nid oes rhaid i ni ddioddef rhai o’r lefelau diweithdra uchaf yn y DU sy’n gorfodi cynifer o’n pobl ifanc medrus i adael y wlad i edrych am waith. Ac nid oes rhaid i ni ethol llywodraeth Lafur arall.

“Mae’r blaid honno wedi cael dwy flynedd ar bymtheg i wrthdroi tranc ein heconomi ac mae hi wedi methu. Mae’n bryd am syniadau ffresh ac uchelgais os ydym am wella ein sefyllfa – mae Plaid Cymru’n cynnig y newid sydd ei angen.”