Mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur, yr Arglwydd Neil Kinnock wedi dweud bod newid agwedd wedi bod tuag at aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ers refferendwm 1975.

Bryd hynny, yr Arglwydd Kinnock oedd un o’r ymgyrchwyr dros adael y Farchnad Gyffredin.

Dywedodd fod sinigaeth tuag at Ewrop o fewn y Blaid Geidwadol gyfystyr ag Enoch Powell – un arall oedd yn gwrthwynebu Ewrop – “yn ennill y ddadl o’i fedd”.

Collodd Powell ei swydd ar fainc blaen llywodraeth Edward Heath yn 1968 yn dilyn ei araith enwog yn lladd ar fewnfudwyr.

Wrth drafod mater Ewrop ar raglen ‘Sunday Supplement’ ar BBC Radio Wales, dywedodd yr Arglwydd Kinnock: “Ro’n i’n ofni’n fawr fod buddsoddiad a swyddi’n cael eu tynnu tuag at ganol y Farchnad Gyffredin ac i ffwrdd o’r ardaloedd fel yr un roeddwn i’n ei chynrychioli, Bedwellte ar y pryd.

“Yr hyn oedd yn amlwg – er nad o’n i’n sylweddoli hynny ar y pryd – oedd ar yr union adeg honno, roedd Comisiwn Ewrop yn gweithio i sefydlu arian datblygu rhanbarthol ac amryw flaenoriaethau a gweithgareddau  a fyddai’n gweithio yn erbyn y dynfa honno o ran buddsoddiad a swyddi tua’r canol.”

Wrth gyfeirio at y trafodaethau rhwng Prif Weinidog Prydain, David Cameron a phenaethiaid Ewrop, dywedodd yr Arglwydd Kinnock fod Cameron wedi “gosod bar oedd bob amser yn mynd i fod bron yn amhosib i’w glirio”.

“Y gorau y gall e ei wneud, ac rwy’n credu ei fod e fwy na thebyg wedi llwyddo i wneud hyn, yw sicrhau trefniadau a fydd yn sicrhau bod budd-daliadau gwaith yn cael eu lleihau’n sylweddol, heb dorri rheolau symud yn rhydd.

“Mae’n gymhleth ond fe ellir gwneud hynny.”