'Caerdydd heb ddiwylliant' (Llun o wefan grwp ymgyrchu WeAreCardiff)
Trwy’r gwynt a’r glaw, fe fu tua 400 o bobol yn protestio yng Nghaerdydd yn erbyn toriadau posib ym maes y celfyddydau.

Yr ofn ydi y gallai hyd at £700,000 gael ei dorri oddi ar gyllideb y celfyddydau yn y brifddinas – toriad y mae ymgyrchwyr yn dweud a fyddai’n “bygwth gweithgaredd a bywyd diwylliannol” Caerdydd.

“Dydyn ni ddim eisiau Caerdydd heb ddiwylliant” oedd un o negeseuon y rali i gynghorwyr Cyngor y Ddinas, cyn y bydd y toriadau’n cael eu cyflwyno’n ffurfiol ar Chwefror 12.

Cabinet y Cyngor fydd yn derbyn neu wrthod yr argymhelliad, ac mae disgwyl i hynny ddigwydd cyn diwedd Chwefror.