Mae rhan o do Canolfan Hamdden Glyn Ebwy wedi cwympo o ganlyniad i law trwm.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 11yb heddiw, ac fe gafodd yr adeilad ei wagio. Fe fydd ar gau am y tro.

Fe gafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw, ac mae datganiad ganddyn nhw y prynhawn yma’n cadarnhau iddyn nhw dreulio tair awr ar y safle, a bod “hanner yr adeilad” wedi’i ddifrodi gan lifogydd.

Agorwyd y ganolfan ar hen safle’r gwaith dur – a safle Eisteddfod Genedlaethol 2010 – ym mis Tachwedd 2013.