Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth, wedi i ddyn yn ei 20au gael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mangor Uchaf yn ystod oriau mân fore Sadwrn.

Fe gafodd swyddogion eu galw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cerddwr a Skoda Fabia o liw gwyn y tu allan i’r Late Shop ar Ffordd Caergybi toc wedi 3.30yb.

Fe gafodd dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol i’w goesau, ond mae bellach wedi’i symud i Stoke. Mae ei anafiadau wedi cael eu disgrifio fel rhai a allai newid ei fywyd.

Mae gyrrwr 18 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol ac o yrru’n beryglus. Mae’n parhau yn y ddalfa.