Mae dau o bobol yn y ddalfa mewn cysylltiad ag ymchwiliad llofruddiaeth yn Y Rhyl.

Mae dyn 46 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o fwrdro Liam Hill, ac mae dynes 41 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr. Mae’r ddau yn byw yn ardal Y Rhyl.

Ddoe, roedd teulu Liam Hill wedi apelio am wybodaeth, gan ofyn i unrhyw un oedd yn gwybod unrhyw beth am yr hyn ddigwyddodd iddo, ddod ymlaen.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dal i apelio am wybodaeth, wedi i gorff Liam Hill gael ei ganfod yn ei fflat ar West Parade toc cyn 2yp ddydd Gwener, Ionawr 8.