Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A483 rhwng Y Drenewydd ac Aber-miwl ben bore heddiw.

Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 6.50yb wedi i gar Hyundai o liw glas a char Renault Clio o liw gwyn fod mewn gwrthdrawiad ar y briffordd, ychydig i’r gogledd i’r gyffordd gyda’r B4389.

Fe gafodd y ffordd ei chau er mwyn caniataru i’r ddau yrrwr dderbyn triniaeth feddygol, ac mae’r ffordd yn parhau ar gau nes y bydd yn cael ei chlirio a’i gwneud yn ddiogel i deithwyr.