Mae un o lonydd priffordd yr M48 ar Bont Hafren wedi’i chau oherwydd gwyntoedd cryfion.

Mae’r ffordd wedi’i chau i’r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd 2 yr A466 (Cas-gwent) a chyffordd 1 yr A403 a’r B4461.

Mae arwyddion dros dro yn yr ardal yn gofyn i yrwyr gadw at gyflymder o 40 milltir yr awr.