Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod corff wedi’i ganfod yn ardal dociau Port Talbot.

Fe gafodd swyddogion eu galw yno toc wedi 9yb, ddydd Iau, wedi adroddiad fod corff yn y dwr.

Dyw’r corff ddim wedi’i adnabod yn ffurfiol eto, ac mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.