Ar benwythnos cynta’ Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad 2016, mae arweinydd Plaid Cymru wedi amlinellu sut y byddai llywodraeth dan ei harweinyddiaeth hi yn gweithio i wneud Cymru’n llwyfan chwaraeon byd-enwog drwy ddenu rhai o dwrnamentau a phencampwriaethau gorau’r byd i Gymru.

Pe bai Plaid Cymru’n ffurfio llywodraeth ym mis Mai eleni, mae Leanne Wood yn dweud y byddai’n gwneud cais i Gymru gynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2026/2030, yn ogystal a gwneud cais i’r Tour de France ddod i Gymru, ar gyfer dynion a menywod.

Byddai hyn nid yn unig yn helpu i godi proffil Cymru fel cenedl sy’n cyflawni llawer yn y byd chwaraeon, meddai, ond hefyd yn sicrhau hwb i’n diwydiant twristiaeth hanfodol.

“Blwyddyn arbennig” 

“Mae 2016 yn addo bod yn flwyddyn arbennig i chwaraeon Cymreig,” meddai Leanne Wood. “Gyda’r tim pel-droed cenedlaethol yn gwneud hanes drwy gyrraedd y Bencampwriaeth Ewropeaidd, a chic gyntaf twrnament rygbi’r Chwe Gwlad heddiw yn dilyn Cwpan y Byd lwyddiannus i Gymru, rhaid i ni wneud y mwyaf ‘r cyfleoedd hyn.

“Mae Plaid Cymru eisiau manteisio ar y cyffro a’r uchelgais sydd ynghlwm a llwyddiannau chwaraeon y genedl i brofi y gallwn nid yn unig gynhyrchu athletwyr o safon rhyngwladol, ond hefyd bod yn lwyfan byd-enwog ar gyfer rhai o’r pencampwriaethau a’r twrnamentau gorau yn y byd.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru eisiau dod a’r digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol gorau i Gymru,” meddai wedyn.

“Byddwn yn datblygu cais i Gymru fod yn gartref i Gemau’r Gymanwlad yn 2026/2030 – rhywbeth fyddai nid yn unig yn medru ysbrydoli cenhedlaeth gyfan i ymwneud mwy a chwaraeon, ond hefyd i sicrhau hwb i’n sector dwristiaeth.

“Byddwn hefyd yn gwneud cais i ddod a’r Tour de France i Gymru, ar gyfer dynion a menywod, a byddwn yn gweithio gydag asiantaethau chwaraeon a’r diwydiant twristiaeth i adnabod cyfleoedd eraill i Gymru gynnal digwyddiadau.”