Fe allai 35 o’r 6,500 sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd fod yn wynebu’r clwt oherwydd pwysau i gwtogi’r gyllideb.

Mae’r swyddi, gwasanaethau a phrosiectau allai wynebu’r gyllell i gyd wedi cael eu cynnwys mewn drafft o adroddiad fydd yn mynd gerbron y Cyngor ar 16 Chwefror, ac sydd wedi ei weld gan y Daily Post.

Ond mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi mynnu y gallai unrhyw ddrafft sydd wedi cael ei weld yr wythnos hon fod yn wahanol i’r un terfynol fydd yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.

Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu gorfod gwneud toriadau o hyd at £5.5m yn dilyn toriad i’w chyllid hithau, ac fe allai hynny hefyd olygu y bydd trethi cyngor yn cynyddu.

‘Gwario llai ar ffyrdd’

Fe allai £4.5m gael ei arbed mewn toriadau, yn ôl yr adroddiad, gyda chodiad treth cyngor o 3.5% yn mynd tuag at ganfod gweddill y cyllid.

Mae’n debyg bod y ddogfen yn argymell torri £350,000 o gyllideb ffyrdd y sir, yn ogystal â thorri nôl ar wasanaethau fel torri gwair ac oriau agor archifdai Caernarfon a Dolgellau.

Fe allai £270,000 gael ei arbed hefyd gan newidiadau i wasanaethau ieuenctid, gyda chamerâu CCTV 24 awr hefyd yn cael eu cwtogi, a swyddi’n mynd yn adeiladau’r cyngor yn Y Felinheli a Phwllheli.

Ond roedd yr adroddiad yn argymell i’r Cyngor beidio â diddymu holl wasanaethau hamdden y sir, fyddai wedi arbed £850,000, na chau pontydd Aber a’r Bermo fyddai wedi arbed £85,000.

‘0.5% o’r gweithlu’

Mae Cyngor Gwynedd yn cyflogi cyfanswm o ryw 6,500 o bobol, tua 1,500 o’r rheiny yn staff ysgolion, felly byddai cael gwared â 35 o swyddi dim ond yn golygu diswyddo tua 0.5% o’u gweithlu.

“Bydd adroddiad ar yr angen i’r Cyngor gyflwyno cyfres o doriadau gwasanaeth yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ar 16 Chwefror,” meddai llefarydd ar ran yr awdurdod lleol.

“Bydd yr adroddiad yma yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun, 8 Medi a bydd ar gael i’r cyhoedd ei weld ar wefan y Cyngor.”