Carwyn Jones gyda Nia Owen yn y feithrinfa
Mae meithrinfa Gymraeg newydd wedi agor yn swyddogol yng Nghyffordd Llandudno, gan ddarparu cyfleuster i blant ar hyd yr arfordir o Lanfairfechan i Fae Cinmel.

Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a agorodd y feithrinfa, gan ddweud ei bod yn “gaffaeliad pwysig” i ardal arfordir y Gogledd.

Mae’r feithrinfa wedi agor ers mis Medi ac mae 21 o blant yn mynd iddi ar hyn o bryd, gyda’r niferoedd yn cynyddu.

Datblygwyd y prosiect mewn partneriaeth rhwng rhiant lleol – Nia Owen, a oedd wedi’i “synnu” nad oedd meithrinfa Gymraeg yn yr ardal yn bodoli eisoes – a Menter Iaith Conwy.

“Roedd o’n rhywbeth dechreuais i edrych i mewn iddo pan oeddwn i’n edrych am feithrinfa Gymraeg i’m mhlant,” meddai Nia Owen, rheolwr busnes y feithrinfa wrth golwg360.

“Ro’n ni wedi synnu nad oedd yna feithrinfa Gymraeg yn yr ardal leol.”

Roedd Nia Owen yn credu bod yna alw am feithrinfa Gymraeg ond nad oedd y ddarpariaeth yna, felly dyma benderfynu mynd ati i geisio creu cynllun busnes dros sefydlu un.

30 yw capasiti’r feithrinfa, ac mae’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at gael plant sydd wedi arfer siarad Cymraeg gyda’u ffrindiau wrth iddyn nhw gyrraedd yr ysgol.

“Annog teuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg”

Dywedodd Carwyn Jones wrth agor y feithrinfa’n swyddogol, “Rwy’n falch iawn bod Menter Iaith Conwy mor rhagweithiol wrth helpu’r gymuned i sefydlu meithrinfa cyfrwng Cymraeg ar arfordir Conwy.

“Mae annog teuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn elfen bwysig o’r gwaith o gynnal a chynyddu’r defnydd o’r iaith, ac mae meithrinfa cyfrwng Cymraeg yn allweddol yn hyn o beth.

“Mae wedi bod yn dda gweld cefnogaeth y bobl leol i’r cyfleuster newydd hwn, gan gadarnhau bod angen amdano yn lleol.”