Mae Kirsty Williams wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n “rhwystredig” nad oes digon o gydnabyddiaeth i waith y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mae Caerdydd.

Fe fydd hi’n annerch ei phlaid y penwythnos yma yn eu cynhadledd wanwyn yng Nghaerdydd cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol mai trafod ei huchelgais i Gymru fyddai ei thema hi ar gyfer ei haraith i’r ffyddloniaid.

“Mae gennym syniadau ffres i siarad am syniadau newydd ar addysg a gwella’r economi,” meddai wrth golwg360.

“Bydd y gynhadledd felly am roi pobl Cymru ar y blaen.”

Yn y canol

Gyda’r polau piniwn yn awgrymu y gallai’r Democratiaid Rhyddfrydol wynebu etholiad caled arall, mynnodd Kirsty Williams bod digon o resymau pam ddylai pobl droi at ei phlaid hi.

“Rydan ni’n blaid unigryw, plaid â’i gwreiddiau yn ddwfn ym mhridd Cymru,” meddai Aelod Cynulliad Brycheiniog a Maesyfed.

“Yn wahanol i’r pleidiau eraill, rydyn ni’n gyfuniad o fod eisiau gwneud y pethau iawn gyda’r economi a bod o blaid menter a pheidio â gweld uchelgais a dyheadau fel pethau drwg, ac ymrwymo hefyd i gyfiawnder cymdeithasol trwy edrych ar ôl y rheiny yn ein gwlad sydd yn ddifreintiedig.

“Rydyn ni’n barod i drafod y pynciau nad yw’r pleidiau eraill yn barod i’w wneud. Sefyll i fyny dros hawliau dynol a gwasanaethau i’r rheiny sydd wedi cael eu hanghofio yn ein cymdeithas.”

Mynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol nad oedd y gwrthbleidiau eraill yn barod i wneud hynny.

“Fedran nhw, yn enwedig Llafur, ddim siarad ag unrhyw hygrededd ar yr economi nag am y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu,” mynnodd Kirsty Williams.

“A does gan y Torïaid ddim diddordeb rhoi hwb i’r rheiny yn ein cymunedau sydd eisiau help i gyrraedd eu nod.

“Felly ni yw’r unig blaid sy’n cyfuno’r ddwy neges, syniadau sydd am wneud gwahaniaeth i bobl, rhieni a chleifion pan maen nhw’n edrych am ddyfodol gwell  i’w gwlad, iddyn nhw a’u teulu.”

“Rhwystredigaeth”

Mae llawer o’r rheiny sydd yn cadw llygad manwl ar y Cynulliad yn uchel eu clod i Kirsty Williams a’i phlaid, ond nid yw hynny yn cael ei adlewyrchu y tu hwnt i Fae Caerdydd.

Ac mae hynny’n destun rhwystredigaeth i’r arweinydd sydd yn benderfynol o amddiffyn record grŵp y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn y Senedd.

“Rydan ni wedi dal y llywodraeth i gyfrif, archwilio mwy a dal ei thraed i’r tân, ond rydyn ni wedi gwneud hynny mewn ffordd bragmatig er mwyn gallu cyflwyno pethau,” meddai.

“Mae hynny’n wahanol i’r Torïaid a Phlaid Cymru sydd yn fwy awyddus i jest gael dadl gyda’r llywodraeth, a ddim defnyddio’u dylanwad i wella pethau.

“Ydy, mae’n rhwystredig fod hyn ddim yn cael ei gydnabod ond dw i’n meddwl bod pobol yn edrych arnom fel plaid nawr.”

Datganoli’n gweithio?

Y neges fydd yn cael ei chyflwyno gan Kirsty Williams yn y gynhadledd yw mai ei phlaid hi yw’r unig un fydd yn gwneud i ddatganoli weithio.

Ond bydd rhaid aros i weld a fydd hynny’n ddigon i achub ei Haelodau Cynulliad yn yr etholiad nesaf, yn enwedig yn sgil bygythiad UKIP ar y rhestrau rhanbarthol.

“Mae llawer, hyd yn oed y rhai oedd mwyaf brwdfrydig [dros ddatganoli], wedi’u siomi [gan y 17 mlynedd diwethaf],” meddai.

“Rydyn ni eisiau gwneud iddo weithio drwy roi pobl yn gyntaf a sicrhau bod unigolion yn cyrraedd eu dyheadau. A dyna fydd nod ein cynhadledd.”

Cyfweliad: Gareth Hughes