Bydd siop recordiau Hag’s yn Llanbedr Pont Steffan – sy’n adnabyddus am ei chasgliad enfawr o recordiau, cds a dvds – yn cau ddiwedd y mis.

Agorwyd y siop dros 30 o flynyddoedd yn ôl gan Hag Harris, Cynghorydd Llafur a ddysgodd Gymraeg yn rhugl ar gwrs Wlpan yn y dref.

Y We sydd ar fai am dranc y siop, gyda nifer gynyddol o bobol yn lawrlwytho eu cerddoriaeth erbyn hyn.

“Mae’r diwydiant wedi newid yn gyfan gwbl,” meddai Bob Gillha, sydd wedi bod yn gweithio yn Hag’s am 20 o flynyddoedd.

“Wrth gwrs, roeddwn yn gwerthu VHS i ddechrau, ac roedd hynny [yn gwerthu] yn dda, ac yna daeth DVDs ac roedd hynny hyd yn oed yn well.”

“Ond ers y pum mlynedd ddiwethaf, wrth i fand eang gyrraedd, a [band eang] cyflym iawn, mae wedi erydu’r sylfaen cwsmeriaid nes ei fod wedi diflannu.”

“Ac mae pobol yn gwylio [rhaglenni a ffilmiau] ar bob math o ddyfeisiau erbyn hyn – mae’r diwylliant wedi newid yn gyfan gwbl.”

Dal i werthu recordiau

Ond dywedodd Bob Gillha fod y siop wedi bod yn “gwneud yn dda iawn” o ran gwerthu recordiau, o gymharu â’r cwpl o flynyddoedd blaenorol.

“Ond does dim digon yn cael eu gwerthu i gyfro’r costau sy’n gysylltiedig fel dŵr a thrydan, sy’n cynyddu o hyd,” ychwanegodd Bob Gillham.


Recordiau ‘rhyfedd’ Huw Stephens

Mae’r siop yn boblogaidd iawn gyda’r DJ radio enwog Huw Stephens, sydd i’w glywed ar BBC Radio Cymru a BBC Radio 1.

“Mae e’n dod mewn yn eithaf aml,” meddai Bob Gillham, “ac wedi dechrau prynu recordiau Cymraeg rhyfedd, sydd wastad wedi bod yn amhosib i’w gwerthu, fel Jac a Wil a Tony ac Aloma, a dechreuodd chwarae hen sdwff fel hynny ar ei raglen radio – ac mae hynny wedi cynyddu eu gwerthiant yn aruthrol.”

Dywedodd Bob Gillham ei fod wedi mwynhau ei gyfnod yn gweithio yn y siop, gan ddweud mai “ffrindiau sydd ganddo, nid cwsmeriaid”.

“Dw i’n trin pawb [sy’n dod i’r siop] fel ffrind.”

Sêl cyn cau

Bydd “bron pob” eitem yn y siop yn cael ei werthu am bris gostyngedig, gyda cds a dvds am £2 yr un a 10 am £10. Bydd recordiau finyl yn cael eu gwerthu am 50c.

“Ar hyn o bryd, mae gennym eitha’ tipyn o recordiau Cymraeg, bron i gyd yn gorau a grwpiau gwerin,” meddai Bob Gillham.