Robert Croft (llun cyhoeddusrwydd Clwb Criced Morgannwg)
Y Cymro Cymraeg Robert Croft sydd wedi ei benodi’n Brif Hyfforddwr newydd Clwb Criced Morgannwg.

Ac mae eisoes wedi dweud ei fod yn ymwybodol o’r her sy’n ei wynebu wrth arwain y sir lle bu’n chwarae rhwng 1989 a 2012, gan gymryd 1,117 o wicedi – yr unig chwaraewr sydd wedi cyflawni’r gamp honno i’r sir a tharo 10,000 o rediadau.

“Rwy’ wedi derbyn y swydd gan wybod fod yna awydd ar y cyd i yrru pethau yn eu blaenau,” meddai Croft mewn neges o Dde Affrica, lle mae’n ymgynghorydd bowlio i dîm prawf Lloegr.

“Mae’r gwaith caled yn dechrau’n awr ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r chwaraewyr a’r staff wrth gefn i setlo ar ein cynlluniau cyn gynted ag y do’ i’n ôl i Gymru.”

‘Gweledigaeth’

Yn ôl Prif Weithredwr y sir, Hugh Morris, y cyn-droellwr o’r Hendy ger Pontarddulais oedd yr ymgeisydd amlwg o blith nifer sylweddol oedd wedi dangos diddordeb.

“Ei gysylltiad hir gyda’r clwb, ei wybodaeth o’r garfan a’i weledigaeth ar gyfer y dyfodol oedd yr elfennau pwysicaf yn ei gyfweliad,” meddai.

Robert Croft, 45 oed, oedd un o fowlwyr mwya’ llwyddiannus Morgannwg erioed ac fe enillodd 71 cap i Loegr – 21 o gemau prawf a 50 o gemau undydd.

Roedd yn un o ddau is-hyfforddwr Morgannwg y tymor diwethaf, gan gymryd cyfrifoldeb am y sir yn dilyn ymadawiad Toby Radford; fe fydd y llall, Steve Watkin, yn parhau yn ei swydd a phenderfyniad yn cael ei wneud ynghylch penodi un arall neu beidio.