Papur y Daily Telegraph yn cofnodi hanes y ddau frawd
Mae dyn ifanc o Gaerdydd yn aros i glywed ei dynged ar gyhuddiad o helpu llanc arall o’r brifddinas i fynd i Syria i ymladd gyda jihadwyr IS.
Mae’r rheithgor yn llys yr Old Bailey yn Llundain yn ystyried eu dyfarniad yn achos Kristen Brekke, 20, o Grangetown, a dau ddyn o Loegr.
Maen nhw wedi eu cyhuddo o helpu Naseel Muthana i fynd i Syria union ddwy flynedd yn ôl pan oedd yn 17 oed.
Y cyhuddiad
Yr honiad yw fod Kristen Brekke wedi prynu dillad i Naseel Muthana ar wefan e-bay ar ôl dod yn ffrindiau ag ef wrth gydweithio mewn siop hufen iâ yng Nghaerdydd.
Mae Kristen Brekke a’r ddau ddiffynydd arall – Adeel Ulhaq o Nottinghamshire a Forhad Rahman o Cirencester – wedi gwadu’r cyhuddiadau o gynorthwyo gweithred frawychol.
Roedd brawd Naseel Muthana, Nasser, wedi mynd i Syria o’i flaen.