Rhaeadr y Graig Lwyd (Steve Foster CCA3.0)
Fe fydd deiseb gyda dros 6,000 o lofnodion yn cael ei chyflwyno i’r Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol heddiw sy’n galw am warchod dau o rannau pwysica’ afon Conwy rhag cynllun trydan dŵr – Rhaeadr y Graig Lwyd a cheunant Ffos Anoddun.

Fe fydd y ddeiseb yn cael ei rhoi i Carl Sargeant gan gynrychiolwyr mudiadau cadwraeth, gweithgareddau awyr agored, chwaraeon dŵr a busnesau lleol sy’n pryderu y bydd gwaith trydan RWE Innogy UK yn gwneud drwg i dwristiaeth a bywyd gwyllt.

Yn ôl trefnwyr y ddeiseb, mae mwy nag 800 o lythyrau yn gwrthwynebu’r cynllun eisoes wedi cael eu hanfon at Bwyllgor Cynllunio Conwy a channoedd yn rhagor at Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gyfrifol am roi trwydded ar gyfer tynnu dŵr o’r afon.

Y cynllun

Mae’r cynllun yn cynnwys codi cored ar draw yr afon uwchben y rhaeadr, ychydig uwchlaw’r Conwy Falls Café ger Betws y Coed, a thwnnel 1 cilomedr o hyd o dan ffordd yr A5.

Fe fyddai hefyd yn golygu newid ychydig ar ffordd yr A470 ger Gwesty’r Fairy Glen – Fairy Glen yw’r enw Saesneg sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer Ffos Anoddun, sy’n geunant o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

“Rydyn ni wedi datgan yn glir wrth y Pwyllgor Cynllunio ac wrth Cyfoeth Naturiol Cymru fod pobol yn dymuno gweld Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun, sy’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn cael eu gwarchod yn briodol,” meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri John Harold.

Y dadlau

Mae’r deisebwyr yn dweud y bydd y gwaith yn effeithio ar lefelau afon Conwy a symudiad pysgod ac yn amharu ar blanhigion prin sy’n tyfu yn y ceunant.

Mae RWE Innogy’n dweud y bydd y cynllun yn diwallu anghenion trydan Betws y Coed a’r ardal ac yn mynnu bod y rhan fwya’ o’r gwaith o dan ddaear.