Ty'r Arglwyddi
Mae’r Arglwydd Harlech wedi marw yn ei gartref yng Ngwynedd yn 61 mlwydd oed.

Fe wnaeth Francis Ormsby-Gore ddilyn ei dad, David Ormsby-Gore, fel Barwn Harlech yn 1985 gan eistedd fel aelod Ceidwadol o Dŷ’r Arglwyddi nes cael gwared ar yr arglwyddi etifeddol yn 1999.

Roedd yn byw yn Nhalsarnau ger Harlech. Nid yw ei farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus.

Bu’n briod gyda’r fodel Amanda Jane Grieve rhwng 1986 a 1998 ac mae ganddyn nhw fab a merch.

Roedd yn gymeriad lliwgar a gafodd ei ddirwyo am fod ym meddiant cyffuriau yn 1999.