Mae nifer y bobol sy’n lladd eu hunain yng Nghymru ar ei hisaf ers i gofnodion ddechrau yn 1981, yn ôl ffigurau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn 2014, cafodd 9.2 o farwolaethau fesul 100,000 o’r boblogaeth eu cofnodi o gymharu â 14.7 yn 2013, sy’n gwymp o 37%.

247 o bobol dros 10 oed oedd wedi lladd eu hunain  yng Nghymru yn 2014, sy’n 146 yn llai na 2013.

Hunanladdiad mewn dynion yn uwch

Roedd nifer y dynion a laddodd eu hunain yn sylweddol uwch na nifer y menywod – 199 o gymharu â 48.

Bellach, mae gan Gymru’r cyfraddau isaf o hunanladdiad yn y Deyrnas Unedig, gyda’r gyfradd uchaf yn amrywio rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Er bod mwy o ddynion na merched yn lladd eu hunain, bu cwymp sydyn rhwng 2013 a 2014, gyda 24.5 fesul 100,000 o’r boblogaeth yn marw oherwydd hunanladdiad yn 2013 a 15.3 yn 2014.

3.4 o fenywod fesul 100,000 o’r boblogaeth a laddodd eu hunain yn 2014, o gymharu â 5.5 yn 2013.

Blaenau Gwent oedd yr awdurdod lleol â’r gyfradd uchaf o bobol yn lladd eu hunain rhwng 2012 a 2014 (16.0 fesul 100,000 o’r boblogaeth) a Thorfaen oedd â’r isaf (5.4 fesul 100,000).

Plant yn cyflawni hunanladdiad – ‘sgandal cenedlaethol’

Ledled y DU, mae’r ffigurau’n dangos bod 98 o blant rhwng 10 ac 14 oed wedi lladd eu hunain dros y ddegawd ddiwethaf.

Dywedodd elusennau iechyd meddwl fod y niferoedd yn “sgandal cenedlaethol”, gan alw am dorri’r tabŵ ynghylch siarad am hunanladdiad.

O’r 98 a laddodd eu hunain, roedd 59 o’r rhain yn fechgyn a 39 yn ferched.

Dydy plant sy’n iau na 10 oed ddim yn cael eu cydnabod yn y ffigurau ac felly, dydyn nhw ddim yn cael eu cynnwys.

“Rydym wedi ‘celu’r’ ffaith bod plant a phobol ifanc yn marw yn y ffordd hon gan ei bod mor boenus i ni,” meddai Ged Flynn, prif weithredwr Papyrus, sy’n elusen dros atal hunanladdiadau ymhlith pobl ifanc wrth y Press Association.

“Mae mor boenus a gwenwynig i feddwl amdano, felly rydym yn ei guddio ac yn gobeithio y bydd yn diflannu. Heddiw gallwn ni weld nad yw’n mynd i ddiflannu.

“Mae’n sgandal cenedlaethol ac mae’n rhaid i ni siarad amdano.”

Dywedodd fod arbenigwyr yn gwybod ers tro bod iselder yn dechrau’n ifanc a bod “amryw o resymau” pam fod plant yn lladd eu hunain.

Ond ychwanegodd fod y plentyn ym mhob achos yn teimlo’n gaeth neu’n teimlo cywilydd a bod hynny’n arwain at ystyried hunanladdiad.

Mae’n annog pobol i siarad mwy am y pwnc.

Am gymorth a chyngor cyfrinachol, gallwch ffonio llinell gymorth yr elusen ar 08000 684141.