Andrew RT Davies
Byddai cyflog gweinidogion llywodraeth Cymru yn gweld gostyngiad o 10% yn eu cyflog petai’r Ceidwadwyr yn ennill etholiad y Cynulliad ym mis Mai, meddai arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies.

Mae disgwyl i gyflog Prif Weinidog Cymru godi i £140,000 y flwyddyn ym mis Mai tra bydd gweinidogion y cabinet hefyd yn gweld eu cyflogau’n codi.

Fodd bynnag, mae Andrew RT Davies yn credu y dylai prif wleidyddion y Senedd weld gostyngiad yn eu cyflogau ac mae am ddefnyddio’r arian i annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Mae’r gwleidydd a ffermwr hefyd yn galw am gael gwyliau byrrach i  Aelodau’r Cynulliad gan ddweud fod y sefydliad yn “senedd ran-amser”.

Bydd Andrew RT Davies yn amlinellu ei gynigion mewn araith yng Nghaerdydd yn nes ymlaen heddiw.

‘Annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth’

Mae disgwyl iddo ddweud: “Dylai Cymru groesawu sefydliadau sy’n annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac i’w cynorthwyo i ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau.

“Ac mae peidio rhoi’r cyfle yna i bobl ifanc ddysgu a datblygu hyd yn oed yn anoddach pan mae Aelodau’r Cynulliad ar fin elwa o godiad cyflog eu hunain.”

Y llynedd, penderfynodd panel annibynnol o blaid rhoi codiad cyflog i ACau gan ysgogi beirniadaeth gan bob plaid.

Mynnodd bwrdd taliadau’r Cynulliad bod modd cyfiawnhau’r cyflogau uwch gan fod gan Gymru fwy o bwerau nag erioed o’r blaen ac y byddai cyflog gwell yn gwella safon yr ymgeiswyr.

Er nad yw Andrew RT Davies yn galw am dorri cyflogau pob AC, dim ond y Prif Weinidog a gweinidogion y cabinet, dywedodd ei fod yn erbyn cynigion i gynyddu nifer yr ACau.

Bydd yn traddodi ei araith – Sut Ddylai Dyfodol Senedd Gymreig Edrych – yn adeilad Tŷ Hywel y Cynulliad am 7yh nos Iau, 4 Chwefror.