Geraldine Newman a'i merch Shannon
Cafodd dau blentyn a gafwyd hyd i’w cyrff, ynghyd â’u mam, yn eu cartref ger Leeds, eu trywanu i farwolaeth yn ôl yr heddlu.

Bu farw Shane Newman, chwech oed a’i chwaer Shannon, 11, o anafiadau ar ôl cael eu trywanu, tra bod eu mam, Geraldine Newman, 51, wedi marw o anafiadau i’w phen.

Oriau ar ôl i’r cyrff gael eu darganfod, cafwyd hyd i Paul Newman, gŵr Geraldine, ar glogwyni ar Ynys Lawd yn Ynys Môn.

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r plant, lle disgrifiwyd Shannon fel “myfyrwraig ddeallus, frwdfrydig, gweithgar a gofalgar”, a Shane fel “bachgen ifanc gofalgar a llawn cariad.”

Digwyddiad domestig

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd, Warren Stevenson, o Heddlu Gorllewin Swydd Efrog, “Tra bod ein hymchwiliad i amgylchiadau llawn eu marwolaethau yn parhau, gallwn ddweud bod hyn yn ymddangos fel digwyddiad domestig a dydyn ni ddim yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

“Ffocws ein hymchwiliad bellach yw darparu’r wybodaeth ofynnol i gyd i’r crwner er mwyn iddo allu cynnal cwestau i’r marwolaethau.

“Mae gennym swyddogion wedi’u hyfforddi’n arbennig sy’n cynnig cymorth i’r teuluoedd sydd yn naturiol mewn trallod. Maen nhw wedi gofyn i gael galaru’n breifat ar gyfnod anodd iawn iddyn nhw.”

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ’r teulu tua 12yp ddydd Mawrth, 2 Chwefror a chafwyd hyd i gorff Geraldine Newman ar y llawr gwaelod a chyrff ei merch a’i mab yn y llofft.

Cafwyd hyd i gorff Paul Newman am tua 5yh  yn agos i glogwyni ar Ynys Lawd sydd tua 160 o filltiroedd i ffwrdd o gartref y teulu yn Allerton Bywater, ger Leeds.