Yr A55 ger Tal-y-Bont wedi'r llifogydd dros gyfnod y Nadolig Llun: Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn cyhoeddi ddydd Iau fod £500,000 ychwanegol yn cael ei neilltuo er mwyn cyflymu’r gwaith o atal llifogydd ar hyd yr A55.

Y disgwyl bellach yw y bydd y gwaith yn dechrau yn yr hydref, yn amodol ar gytundeb perchnogion y tir dan sylw.

Fe fu’n rhaid cau rhan o’r A55 ar Ddydd San Steffan wedi llifogydd yn ardal Tal-y-bont, ger Bangor gan achosi trafferthion difrifol i deithwyr.

Bydd gwaith draenio’n cael ei gwblhau rhwng cyffyrdd 12 a 13, a oedd i fod yn rhan o gynllun mawr Abergwyngregyn i Dai’r Meibion.

Bydd y gwaith hwn nawr yn cael ei gwblhau 12 mis yn gynt na’r disgwyl.

Mae’r gwaith cynllunio eisoes wedi dechrau, ac fe fydd yn golygu codi byndiau pridd, ffosydd a sianeli i gymryd y dŵr llif o gyrsiau dŵr eraill, gan atal y dŵr rhag llifo i’r A55 a’r cwlfertydd rhag blocio yn ystod glaw trwm.

Tal-y-bont

Yn ogystal, mae disgwyl i Carwyn Jones gyhoeddi y bydd y cynllun lliniaru llifogydd gwerth £1.9 miliwn yn Nhal-y-bont yn dechrau yn ystod y gwanwyn, gyda’r bwriad o’i gwblhau cyn y gaeaf.

Cafodd sawl cartref yn y pentref ger Bangor eu heffeithio gan lifogydd ar Ddydd San Steffan, wrth i ddŵr lifo o ffordd yr A55 i gae cyfagos ac i lawr lôn wledig gan achosi difrod i dai.

Dyma’r ail dro i lifogydd effeithio ar y pentref mewn tair blynedd.

Fe fydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ystod ymweliad â’r Ganolfan Rheoli Traffig yng Nghonwy, sef y ganolfan sy’n monitro’r A55 bob awr o’r dydd.

A55 ‘ddim yn ateb y gofyn’

 

Dywedodd Carwyn Jones: “Rydym yn gwybod nad yw’r A55 fel y mae yn ateb y gofyn ac na chafodd ei chreu i allu delio â llif traffig mor drwm.

“Â bod yn berffaith onest, pe baem yn ei hadeiladu nawr, byddem yn gwneud pethau’n wahanol.

“O’r herwydd, mae angen datrys nifer o broblemau ar y ffordd hanfodol hon i’r Gogledd iddi allu rhedeg yn esmwyth.

“Mae’r cynllun rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion yn brosiect gwerth £15m o welliannau ac mae angen llawer o waith cynllunio arno oherwydd ei faint.

“Ond mae modd dechrau ar y rhannau o’r cynllun sy’n delio â phroblemau llifogydd yr A55 yn gynt ac mae’n dda gennyf ddweud bod y gwaith eisoes yn mynd rhagddo.

“Rydym wedi cael lefelau digynsail o law, yn enwedig yma yn y Gogledd, ac mae’n hanfodol ein bod yn gallu ymdopi â hyn gan y bydd glaw tebyg yn debygol o ddigwydd yn amlach yn y dyfodol.  Dyna pam roeddwn am weld camau’n cael eu cymryd yn gynt lle’r oedd hynny’n bosibl.

“Pan welais y llifogydd ar yr A55 ac yna cyfarfod â phobl Tal-y-bont a oedd wedi dioddef o’u herwydd, dywedais fod yr arian ar gael ar gyfer cynllun fyddai’n lleihau’r perygl iddo ddigwydd eto.”