Stephen Crabb
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru ddweud heddiw fod y feirniadaeth o Fil Cymru drafft yn “seiliedig ar anwybodaeth.”

Mewn cyfarfod o’r Uwch Bwyllgor Cymreig, bydd Stephen Crabb yn amddiffyn ei setliad datganoli i Gymru, gan feirniadu’r Prif Weinidog Carwyn Jones, a’i gyhuddo o  “droi cefn” ar ddyfodol yr Undeb.

“Mae llawer o feirniadaeth y Bil drafft yn seiliedig ar anwybodaeth neu’n anghywir. Does yna ddim ‘feto Saesneg’. Mae’r Bil yn taro’r cydbwysedd cywir,” mae disgwyl iddo ddweud.

“Pan fydd y Prif Weinidog (Cymru) yn symud y pyst gôl a newid ei farn, mae’n anodd iawn trafod. Mae bellach yn rhannu’r un farn â Leanne Wood (arweinydd Plaid Cymru) gan ddadlau dros setliad datganoli sy’n tanseilio rôl a chyfreithlondeb Llywodraeth y DU.”

Dim cefnogaeth gan Lafur

Mae Llafur wedi cyhoeddi heddiw na fydd yn cefnogi’r bil oni bai bod newidiadau “radical” yn cael eu gwneud.

“Ni fyddwn yn pleidleisio dros Fil sy’n tynnu pwerau yn ôl o’r Cynulliad, yn ei gwneud hi’n anoddach i basio cyfreithiau, ac y bydd bron yn sicr yn arwain at wastraffu miloedd o bunnoedd o arian y trethdalwyr ar heriau cyfreithiol,” meddai Nia Griffith, llefarydd Llafur ar Gymru.

“Nid dyma’r setliad eglur a pharhaol roedd Ysgrifennydd Cymru wedi addo. Nid dyma beth oedd pobol Cymru wedi pleidleisio amdano yn y refferendwm yn 2011.”

Dywedodd fod y setliad wedi cael ei ddrafftio’n wael, a’i fod yn rhy gymhleth, gan ychwanegu bod “pobol Cymru’n haeddu gwell.”

Gwleidyddion Cymru yn beirniadu

Yn y Cynulliad, mae pob sbectrwm o’r byd gwleidyddol wedi beirniadu’r bil sy’n canolbwyntio ar symud model datganoli yng Nghymru o fodel “rhoi pwerau” i fodel “cadw pwerau”.

Hynny yw, bydd yn cymryd yn ganiataol bod pob maes wedi cael ei ddatganoli, oni bai ei fod yn dweud yn wahanol.

Ym mis Hydref, dywedodd Carwyn Jones y byddai’r setliad newydd yn lleihau pwerau’r Cynulliad ac yn arwain at ragor o heriau cyfreithiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Ac ar ddechrau’r wythnos, fe wnaeth grŵp o arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain annog ACau i wrthod y Bil os na fydd newidiadau mawr yn cael eu gwneud iddo.