Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio gwraig leol o Gastell-nedd ar ôl i’w chorff gael ei ganfod mewn tŷ ym mhentref Tonna, ddydd Sadwrn.

Bydd Rhys Trevor Anthony Hobbs, 43 yn ymddangos o flaen Llys yr Ynadon Abertawe heddiw, wedi’i gyhuddo o lofruddio Andrea Lewis, 51.

Cafodd dyn arall, 46, ei arestio hefyd, ond mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Heol Fairyland, Tonna ychydig cyn 8yb ddydd Sadwrn, Ionawr 30.

Teyrnged

Roedd Andrea Lewis yn gweithio’n lleol yn nhref Castell-nedd ac roedd ganddi ddau blentyn.

Wrth roi teyrnged iddi dywedodd ei theulu mewn datganiad: “Andrea oedd ein merch, ein chwaer a’n mam ac roedd pawb yn ei charu, byddwn yn gweld ei heisiau yn fawr iawn.”

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd, Kath Pritchard, “Mae ein hymchwiliad i farwolaeth Andrea Lewis yn parhau a thra bo dyn wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddiaeth, rydw i dal am glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw weithgaredd amheus yn yr ardal, neu sydd â gwybodaeth y gallai fod o gymorth i ni.

“Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Andrea ac maen nhw’n parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael cymorth gan swyddog cyswllt teuluoedd sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig.”

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111 gan ddyfynnu 1600033245.