Ynys Lawd lle cafwyd hyd i gorff y dyn

Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dynes a’i dau blentyn wedi dod o hyd i gorff dyn, maen nhw’n amau o fod yn gysylltiedig â’r marwolaethau,  yn Ynys Môn.

Cafwyd hyd i gyrff y ddynes, sydd wedi’i henwi’n lleol fel Geraldine Newman, ei merch Shannon, 11, a’i mab Shane, 6, yn eu cartref ger Leeds fore dydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog nos Fawrth bod corff y dyn, sydd heb gael ei adnabod, wedi ei ddarganfod tua 5yh ger creigiau ar Ynys Lawd.

Mae’r safle, sy’n boblogaidd gyda cherddwyr, tua 160 milltir o Allerton Bywater lle cafwyd hyd i’r cyrff.

Post mortem

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Warren Stevenson o Heddlu Gorllewin Swydd Efrog: “Nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod hyd yn hyn ond rydym yn gweithio’n agos gyda swyddogion  Heddlu Gogledd Cymru am ein bod yn credu y gallai fod yn gysylltiedig i’n hymchwiliad yn Leeds.”

Cafodd yr heddlu eu galw i dy’r teulu yn  Beeston Way ym mhentref Allerton Bywater toc cyn hanner dydd ddoe a chafwyd hyd i gorff Geraldine Newman. Cafwyd hyd i gyrff ei mab a’i merch ar lawr cyntaf y tŷ. Nid yw’r heddlu wedi eu hadnabod yn swyddogol hyd yn hyn.

Dywedodd Warren Stevenson: “Fe fydd archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal i geisio darganfod beth achosodd eu marwolaethau ond maen nhw wedi marw mewn amgylchiadau amheus ac rydym felly’n trin eu marwolaethau fel achosion o lofruddiaeth.”

‘Uchel iawn ei pharch’

Yn ôl adroddiadau roedd Geraldine Newman yn rheolwr yn siop Wilko lle’r oedd wedi gweithio ers 23 mlynedd. Mae’n debyg mai ei chyd-weithwyr oedd wedi cysylltu â’r heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni ei bod yn “uchel iawn ei pharch ymhlith y tîm.”

“Mae hyn yn newyddion trasig sydd wedi tristau pawb fu’n gweithio gyda Geraldine. Mae ein meddyliau gyda’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn ac mae popeth yn cael ei wneud i gefnogi aelodau’r tîm sydd wedi cael eu heffeithio gan y newyddion trasig yma.”

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd unrhyw beth yn yr ardal yn arwain at y cyfnod pan gafwyd hyd i’r cyrff i gysylltu â’r heddlu ar 101.