Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth heb eglurhad yn Abertawe.

Fe gafodd plismyn eu galw  toc wedi 10yh nos Wener, oherwydd pryderon am ddyn yn ei 30au. Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys, ond bu farw’n fuan wedi cyrraedd yno.

Dydi’r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y digwyddiadau a arweiniodd at y farwolaeth, i gysylltu â nhw.