Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain angheuol a ddigwyddodd yn ystod oriau mân fore Sadwrn.

Fe fu gwrthdrawiad am 2yb rhwng fan wen Vauxhall Vivaro a cherddwr ar ffordd ddeuol yr A4119 i gyfeiriad y de, rhwng Parc Manwerthu Talbot Green a’r hyn sy’n cael ei nabod yn lleol fel “cylchfan Matalan”.

Bu farw’r cerddwr 33 mlwydd oed yn y fan a’r lle. Chafodd gyrrwr 52 oed y fan ddim ei anafu.

Mae’r heddlu’n galw ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar y rhif 111, neu i ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.