Mae cyflwynydd Heno Gerallt Pennant wedi dweud wrth golwg360 ei fod o bellach yn gwella ar ôl anafu’i goes chwith wrth sgïo.

Dywedodd y cyflwynydd bod doctoriaid wedi dweud wrtho na fyddai’n gallu cerdded yn iawn eto tan fis Ebrill, a’i fod yn “edrych ymlaen at y dyddiad hwnnw’n barod”.

Fe ddigwyddodd y ddamwain bythefnos yn ôl wrth iddo sgïo yn Awstria, a hynny llai na phythefnos ar ôl i’r digrifwr Tudur Owen hefyd anafu’i hun ar y llethrau.

A phwy gamodd i sgidiau Tudur Owen ar ei raglen dydd Gwener ar Radio Cymru yn dilyn ei absenoldeb? Neb llai na Gerallt Pennant.

Deg wythnos arall

Mae meddygon wedi gosod plât ac wyth sgriw yng nghoes Gerallt Pennant yn dilyn y ddamwain, ac fe ddywedodd nad oedd o’n siŵr eto pryd y gallai ddychwelyd i’r gwaith.

“Mae o’n beth sy’n cael ei alw’n pressure fracture ar y tibia,” esboniodd Gerallt Pennant, sydd bellach wedi dychwelyd adref o Awstria.

“Dw i ddim mewn cast, ond cha i ddim rhoi pwysau ar fy nghoes chwith tan 10 Ebrill.

“Roedd y gwasanaeth a’r gofal ges i yn yr ysbyty yn Awstria yn neilltuol – o fewn llai na thair awr o gyrraedd yr ysbyty ro’n i yn y theatr yn cael y llawdriniaeth.”