Gwobrwyo Yws Gwynedd y llynedd
Bydd Yws Gwynedd ymysg y deg act fydd yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar eleni, wrth i’r trefnwyr gadarnhau’r lein-yp terfynol.

Ymysg y cerddorion fydd hefyd yn chwarae dair wythnos i yfory yn Aberystwyth mae’r ddeuawd arbrofol Rogue Jones a bandiau Cpt Smith, Calfari ac Ysgol Sul.

Roedd y trefnwyr eisoes wedi cyhoeddi y byddai Sŵnami, Band Pres Llareggub, Terfysg, HMS Morris ac Aled Rheon hefyd yn perfformio yn y noson wobrau yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Dyl Mei fydd yn cyflwyno’r noson am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gyda Gethin Evans yn ail-ymuno ag o wedi blwyddyn o seibiant llynedd.

Adlewyrchu llwyddiant

Mae rhestrau byr rhai o’r gwobrau eisoes wedi cael eu cyhoeddi, ac fe fydd rhagor yn cael eu datgelu dros yr wythnosau nesaf.

“Mae’n bwysig iawn i ni fod lein-yp y digwyddiad yn iawn, ac yn adlewyrchu llwyddiant y flwyddyn sydd wedi bod” meddai golygydd cylchgrawn Y Selar, Gwilym Dwyfor.

“Rydan ni’n trio cynnwys cymaint â phosib o artistiaid sy’n cyrraedd rhestrau byr y Gwobrau, ond hefyd rhai artistiaid sydd wedi bod yn arbennig o weithgar ac yn haeddu clod yn ein barn ni.

“Dw i’n credu bod yna amrywiaeth ardderchog i’r arlwy eleni, a hynny’n adlewyrchu amrywiaeth y genres cerddorol sydd gan y sin Gymraeg i’w gynnig ar hyn o bryd.

“Gyda thocynnau’n gwerthu’n gyflym cyn rhyddhau’r lein-yp, bydd y cyffro’n cynyddu rŵan – mae’n mynd i fod yn glamp o noson.”

Mae tocynnau ar werth am y pris cynnar arbennig o £12 nes dydd Sul 31 Ionawr, gan gynyddu i £15 y diwrnod canlynol.