Fe fydd deddfwriaeth newydd yn dod i rym fis nesaf a fydd yn golygu mai cynghorau sir fydd yn rheoli effaith Tai Amlfeddiannaeth (Houses of Multiple Occupation neu HMOs) yn eu hardaloedd.

Golyga hyn y bydd tai sy’n cael eu rhentu gan sawl person sydd ddim yn perthyn i’w gilydd, yn cael eu rheoli gan y cyngor sir yn hytrach na Llywodraeth Cymru.

Y pwrpas yw ceisio ‘lleihau effaith’ y mae’r tai hyn yn eu cael ar gymunedau gan fod “casgliad mawr ohonynt” yn gallu dod â phroblemau, yn ôl y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, sydd wedi llunio’r ddeddfwriaeth.

Felly, bydd yn rhaid i unrhyw un sydd am greu HMO newydd i rhwng tri a chwe unigolyn ac sy’n rhannu cyfleusterau sylfaenol fel cegin neu ystafell ymolchi, wneud cais am ganiatâd cynllunio I’r cyngor lleol.

Effaith HMOs ar gymunedau

Mae’r ddeddfwriaeth, a ddaw i rym ar 25 Chwefror, wedi’i datblygu ar ôl argymhellion a wnaed mewn adroddiad annibynnol ar yr effaith y gall HMOs eu cael ar gymunedau.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod angen cymryd camau i sicrhau bod preswylwyr yn dal yn teimlo’n saff mewn ardaloedd sydd â nifer fawr o HMOs, tra hefyd yn diogelu hawliau’r bobl hynny sy’n byw ynddyn nhw.

“Rheoli” nifer yr HMOs

“Mae HMOs yn gwneud cyfraniad pwysig at y sector rhentu preifat drwy ddiwallu anghenion grwpiau penodol o bobl a rhoi llety i unigolion nad ydynt yn gallu fforddio prynu eiddo neu rentu llety mwy o faint,” meddai’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, a luniodd y ddeddfwriaeth.

“Fodd bynnag, fel y nodwyd yn ein hadroddiad annibynnol, gall casgliad mawr o HMOs ddod â’u problemau eu hunain i ardaloedd lleol. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn caniatáu i awdurdodau cynllunio gymryd camau i reoli nifer yr HMOs yn eu hardal.

“Rwy’n gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn cael ei chroesawu gan y cymunedau lleol hynny lle mae nifer fawr o HMOs ledled Cymru ac awdurdodau lleol.”