Mewn arolwg gan Urdd Gobaith Cymru o ddisgyblion 11-19 oed yng Nghymru, mae 43% wedi nodi nad oedd digon o weithgareddau yn cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardal.

Gweithgareddau chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg oedd y mwyafrif yn dymuno gweld yn eu hardal (53%), gyda chlwb ieuenctid, clwb drama a chlwb antur / awyr agored hefyd yn boblogaidd.

Cafodd 915 o bobl ifanc oedd yn medru’r Gymraeg o bob cwr o Gymru eu holi, gyda 49% ohonynt yn siarad Cymraeg adref a’r mwyafrif – 58% – rhwng 11 – 13 oed.

Pan ofynnwyd ble y byddent yn hoffi siarad mwy o Gymraeg, nododd 50% y byddent yn hoffi siarad mwy o Gymraeg gyda ffrindiau yn yr ysgol a 37% yn dymuno pe byddai gweddill eu teulu yn siarad Cymraeg iddynt gael siarad adref.

Fforwm ieuenctid genedlaethol

Bydd canlyniadau llawn yr arolwg yn cael eu trafod gan fforwm ieuenctid genedlaethol yr Urdd, Bwrdd Syr IfanC, yn ystod cynhadledd yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd dros y penwythnos.

Yn ogystal ag aelodau’r bwrdd, mi fydd llysgenhadon yr Urdd o fewn ysgolion uwchradd yn mynychu’r gynhadledd ac aelodau o fforymau ieuenctid rhanbarthol.

Dan Rowbotham yw Cadeirydd Bwrdd Syr IfanC a Llywydd yr Urdd eleni.  Meddai: “Mae canlyniadau’r arolwg yn ddiddorol iawn a dwi’n ffyddiog y cawn ni drafodaeth ddiddorol ac adeiladol yn ein cynhadledd yng Nghaerdydd.

“Mae’r Urdd eisoes yn cynnig amryw o weithgareddau i aelodau uwchradd ond yn amlwg mae galw am fwy – a rhaid i ni geisio dadansoddi i weld pa ardaloedd mae’r prinder mwyaf a sut gallwn ni ddiwallu’r angen.

“Roedd yn galonogol iawn fod 95% o’r ymatebwyr yn falch neu yn falch iawn o fod yn gallu siarad Cymraeg o ystyried fod dros hanner yn dod o gartrefi di-Gymraeg.  Mae’n bwysig ein bod yn gwneud arolygiadau fel hyn i adnabod ble mae’r galw mwyaf am weithgareddau’r Urdd.”

Mi fydd y gynhadledd hefyd yn gyfle i aelodau hŷn yr Urdd gyfarfod y Prif Weithredwr newydd, Sioned Hughes, am y tro cyntaf a chael sesiwn holi ac ateb gyda’r actor Siôn Ifan, y gantores Casi Wyn a’r gohebydd Catrin Heledd.