Cyngor Sir Penfro
Mae Cyngor Sir Penfro yn ystyried a ddylid cynyddu’r dreth gyngor ar ail gartrefi yn yr ardal.

Ar hyn o bryd, mae perchnogion tai haf yn gorfod talu’r un faint o dreth gyngor a thrigolion lleol. Mae’r dreth gyngor yn cael ei gasglu ar eiddo domestig ac mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau lleol.

Ond bydd deddfwriaeth newydd, sydd i ddod i rym erbyn diwedd mis Ionawr, yn caniatáu i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynyddu’r dreth gyngor ar dai ychwanegol o hyd at 100% o’r gyfradd bresennol.

Oherwydd hynny mae Cyngor Sir Penfro wedi dechrau ymgynghori a ddylai’r codiad gael ei gyflwyno ac ar ba lefel.

Meddai’r cyngor y gallai cynnydd helpu i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Ar hyn o bryd, mae tua 3,000 o bobl yn berchen ar ail gartrefi yn y sir.

Bydd ymgynghoriad y cyngor ar agor tan 22 Chwefror ac mae modd i bobl gyfrannu at y drafodaeth wrth ymweld â: www.pembrokeshire.gov.uk/haveyoursay