Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi safonau ysgolion yng Nghymru heddiw.

Y llynedd, daeth system newydd o raddio ysgolion i rym lle mae ysgolion yn cael ei rhoi mewn categorïau lliw.

Roedd y mesur newydd yn cymryd lle’r system fandio ddadleuol ac yn gweld ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu graddio am y tro cyntaf.

Ond mewn llythyr agored at y Gweinidog Addysg Huw Lewis  mae llywodraethwyr ysgolion cynradd yng ngogledd a chanolbarth Cymru wedi dweud fod y system newydd o raddio yn annheg i ysgolion llai.

Yn ôl y llythyr, fe allai perfformiad un disgybl mewn ysgol fach, gyda llai na 100 o ddisgyblion,  olygu’r gwahaniaeth rhwng dau gategori.

‘Annibynadwy’

Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Eglwysbach yn Nyffryn Conwy, ar y Post Cyntaf y bore ma fod y dull newydd yn “annibynadwy”.

Meddai: “Da ni’n annog y Gweinidog Addysg i adolygu’r sefyllfa a da ni’n teimlo fod meincnodi yn seiliedig ar ganrannau yn gwbl gamarweiniol wrth drafod ysgolion bychain.

“Ambell dro gall blwyddyn fod cyn lleied â chwech neu bump felly mae un plentyn yn gallu cynrychioli 20% o’r canran. Da ni’n gweld felly, os ‘di un plentyn ddim yn cyrraedd y safonau disgwyliedig, ei fod o’n gallu creu niwed mawr i’r data.”

Bwriad y system newydd, meddai Huw Lewis, yw gwella perfformiad a safonau mewn ysgolion.

Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw gydag ysgolion yn cael eu rhoi mewn categori lliw – gwyrdd sy’n perfformio orau, melyn yn dda, oren sydd angen gwella ac ysgolion coch sydd angen y gwelliant mwyaf –  ac yn cael eu hasesu dros gyfnod o dair blynedd yn lle un.