Storm Jonas yn creu tonnau yn Aberystwyth ddydd Mawrth (llun: PA)
Mae Storm Jonas wedi gostegu rhywfaint yn dilyn y tywydd difrifol bore yma a dros nos, ond mae llifogydd yn dal i greu problemau ar rai ffyrdd ac mae cyflenwad pŵer miloedd o bobol wedi’i effeithio.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod tri rhybudd coch o lifogydd yn dal i fod mewn grym yn Nyffryn Conwy ger Llanrwst, Bro Ddyfi, rhwng Derwenlas a Machynlleth ac yn Sir Gaerfyrddin ger pentrefi Capel Dewi a Nantgaredig.

Roedd y gwasanaeth rhwng Y Drenewydd a Machynlleth hefyd wedi cau am gyfnod, cyn ailagor toc wedi 3 o’r gloch y prynhawn.

Mae pont Afon Dyfi ar yr A487 yn parhau ar gau ac mae cyfyngiad cyflymder o 20mya ar Bont Britannia yn dal i fod mewn grym hefyd.

Mae 28 rhybudd melyn ‘byddwch yn barod’ am lifogydd yn dal i fod mewn grym ledled Cymru.

Dim trydan

Am tua 1 o’r gloch heddiw roedd 9,000 o gartrefi yn ardal Cwmbrân dal heb gyflenwad trydan yn dilyn y tywydd stormus.

Erbyn hyn, pump cartref sydd dal heb bŵer, ac mae cwmni Western Power wedi dweud y bydd yn darparu generaduron iddyn nhw dros nos, gyda’r gobaith y bydd y pŵer yn dod yn ôl erbyn bore fory.

Mae chwe thŷ yng Nghaernarfon dal heb gyflenwad trydan chwaith, ond mae disgwyl iddo gael ei adfer y prynhawn yma.

Achub dynes o’i cherbyd

Cafodd y Gwasanaeth Tân ei alw’r bore yma ar ôl i ddynes fynd yn sownd yn ei cherbyd ar yr B5106 ger Llanrwst ar ôl mynd i drafferthion yn y llifogydd.

Mae’r B5106 rhwng Llanrwst a Threfriw yn parhau i fod ynghau.

Yn Llandudno, fe wnaeth ffenestri mewn caffi a thafarn yn y dref dorri oherwydd y gwyntoedd cryfion ddoe.