Roedd heddluoedd Cymru wedi arestio tua 500 o bobl yn ystod Ymgyrch Atal Yfed/Cymryd Cyffuriau a Gyrru’r Gaeaf eleni.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ar 1 Rhagfyr a barodd hyd at 1 Ionawr, gan gynnal 22,811 o brofion yfed a gyrru ar fodurwyr.

Mae’r ffigwr cenedlaethol yn sylweddol is na ffigurau’r gorffennol, pan stopiodd yr heddlu 30,718 o bobol yn 2014 a 35,255 yn 2013 er mwyn cynnal profion yfed a gyrru.

Er bod llai o brofion wedi’u cynnal  eleni, cafodd 498 o bobol eu harestio, o gymharu â 488 yn 2014 a 465 yn 2013.

Gogledd Cymru’n cynnal y mwyaf o brofion

Eleni, roedd Heddlu De Cymru wedi profi 4,409 o fodurwyr, gyda 205 yn bositif, wedi gwrthod neu’n methu’r prawf.

Bu Heddlu Gwent yn cynnal profion ar 1,130 o bobol, gyda 47 yn bositif, wedi gwrthod neu’n methu’r prawf.

Heddlu Gogledd Cymru a gynhaliodd y nifer fwyaf o brofion – 8,894, gyda 82 o bobol yn bositif, wedi gwrthod neu’n methu’r prawf. Fe gynhaliodd Heddlu Dyfed Powys 8378 o brofion, gyda 164 yn profi’n bositif, wedi gwrthod neu’n methu’r prawf.

Cafodd 99 o bobl eu harestio am droseddau cyffuriau, gyda 26 yn Ne Cymru, 21 yng Ngwent, 35 yn y Gogledd a 17 yn ardal Dyfed Powys.

‘Hollol annerbyniol’

Dywedodd yr arolygydd Steve Davies, o Heddlu De Cymru y bydd yr heddlu’n parhau i weithio gyda chymunedau i sicrhau bod yfed a gyrru yn cael ei weld fel rhywbeth “hollol annerbyniol.”

“Byddwn yn parhau i ddefnyddio pob gwasanaeth gwybodaeth a thechnoleg sydd ar gael i dargedu’r lleiafrif hynny sy’n dal i gredu ei fod yn dderbyniol i yrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau,” meddai.