Leighton Andrews
Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio yn erbyn Mesur Undebau Llafur Llywodraeth Prydain heddiw o 43 pleidlais i 13.

Roedd pob aelod o’r Blaid Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn y mesur arfaethedig.

Fe fyddai’r mesur yn cyfyngu ar allu gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus i gynnal streiciau.

Dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ei fod yn falch gyda’r ffordd yr aeth y bleidlais.

“Mae’r Mesur yn niweidiol, yn gynhennus ac mae perygl y gallai danseilio gwasanaethau cyhoeddus a’r economi,” meddai wrth annog aelodau i bleidleisio yn ei erbyn.

“Mae rhannau sylweddol o’r Mesur yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli. Nid yw’n dderbyniol i Lywodraeth y DU geisio gorfodi’r Mesur ar Gymru.”

Diystyru pleidlais y Senedd?

Er hyn, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain fod y Mesur yn ymwneud â materion i Lywodraeth y DU, gan awgrymu y byddai’n diystyru’r bleidlais.

“Mae’r Mesur Undebau Llafur yn ymwneud â hawliau gweithwyr, dyletswyddau a materion diwydiannol, sydd i gyd yn faterion ar gyfer Llywodraeth y DU o dan setliad datganoli Cymru,” meddai’r llefarydd.

Gyda’r ddwy lywodraeth yn anghytuno, gall y mater fynd i’r Uchel Lys os na ddaw cytundeb.