Argraff arlunydd o arena newydd Abertawe, Llun: Cyngor Abertawe
Mae Cyngor Abertawe yn ystyried cynllun i adeiladu arena fawr yng nghanol y ddinas gyda lle ar gyfer tua 3,500 o bobol.

Y gobaith yw denu perfformwyr enwog a chynnal arddangosfeydd a chynadleddau mawr a allai roi hwb i fusnesau lleol.

Y cwmni a enillodd dendr i adfywio safle datblygu Dewi Sant yn Heol Ystumllwynarth, ger canolfan hamdden y LC, yn agos i’r bae, yw Rivington Land, sydd wedi rhoi’r cynnig gerbron y cyngor.

Mae’r cynnig yn cynnwys adeiladu’r arena ar faes parcio’r LC ac os bydd yn cael sêl bendith, bydd maes parcio dan do yn cael ei adeiladu o dan yr arena.

Mae syniadau eraill yn cynnwys adeiladu siopau newydd ar safle hen ganolfan siopa Dewis Sant. Byddai’r datblygiad hwnnw hefyd yn cynnwys bwyty, ardal gaffi, sinema ac adeilad preswyl newydd.

Bonnie Tyler yn lleisio cefnogaeth

Un sy’n cefnogi’r datblygiad yw’r gantores Bonnie Tyler sy’n enedigol o Abertawe, ac sydd â chartref yno, gan ddweud ei fod yn syniad ‘gwych’.

“Mae gan Abertawe hanes hir a balch o ddatblygu cantorion a cherddorion o’r radd flaenaf, felly mae’n briodol bod y ddinas yn cael arena eiconig o’r math hwn.

“Byddai’r cynnig hwn i adeiladu arena yn dod â pherfformwyr enwog i Abertawe, gan roi mynediad cyfleus i bobl leol i adloniant o safon a thynnu mwy o sylw at Abertawe fel dinas flaenllaw ar gyfer digwyddiadau .

“Mae Bae Abertawe yn fan gwych i dwristiaid, ond gallai’r arena ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i’r ardal yn y dyfodol, a fyddai’n newyddion gwych i fusnesau lleol fel gwestai, bwytai a siopau.”

Adfywio’r Ganolfan Ddinesig

Cynllun arall sydd ar y gweill yn y ddinas yw adfywio safle’r Ganolfan Ddinesig, a fydd yn cael ei throi’n fflatiau, tai tref, caffis, bwytai a lle cyhoeddus newydd.

Cwmni Trebor Developments sy’n gyfrifol am y gwaith hwn ac mae awgrymiadau y bydd y cwmni’n gweithio’n agos gyda Phrifysgol Abertawe i ystyried y posibilrwydd o greu ‘canolfan hydro’ ar y safle a allai gynnwys acwariwm cyhoeddus a chanolfan ymchwil gwyddorau dŵr.