Y tonnau ger promenad Aberystwyth heddiw
Mae cannoedd o gartrefi wedi colli eu cyflenwad trydan yng ngorllewin a gogledd Cymru yn sgil y gwyntoedd cryfion heddiw.

Cartrefi ym mhentref y Tymbl a Chastellnewydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi’u heffeithio fwyaf.

Am tua 11:10 bore yma cafodd cwmni Western Power alwad yn dweud bod coeden wedi disgyn ar geblau trydan yn y Tymbl gan achosi i 241 o gartrefi golli eu cyflenwad trydan.

Erbyn hyn, 124 o gartrefi sydd wedi’u heffeithio a does dim disgwyl i’r pŵer ddod yn ôl tan tua 5 o’r gloch heno gan fod yn rhaid i beirianwyr symud y goeden cyn gwneud unrhyw waith atgyweirio.

Ym mhentref Cwmpengraig, ger Castellnewydd Emlyn, roedd 249 o gartrefi wedi’u heffeithio ond mae’r trydan wedi ei adfer erbyn hyn.

Mae Western Power hefyd yn adfer y cyflenwad trydan i drigolion yng Nghastell-nedd, Merthyr Tudful a rhannau o Gaerdydd.

Yn  y de, mae tua 233 o gartrefi wedi’u heffeithio ar hyn o bryd.

Roedd rhai cartrefi ym Methesda wedi colli eu cyflenwad trydan bore yma ond dywedodd Scottish Power ei fod wedi’i adfer erbyn hyn.

Rhagor i ddod

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm a gwyntoedd cryfion yn ystod y dydd heddiw ac yfory a dydd Gwener, gyda’r posibilrwydd o lifogydd mewn mannau.

Gall cymaint â 100mm o law fwrw rhannau o Gymru drwy gydol y dydd wrth i weddillion Storm Jonas, o America, deithio ar draws Môr yr Iwerydd.

Mae gwyntoedd cryfion ar draws arfordir y wlad hefyd, gyda Maes Awyr Caernarfon yn cofnodi gwyntoedd yn hyrddio ar 103mya, y record cyflymaf yn y 12 mis diwethaf.

Mae cyfyngiadau cyflymder ar Bont Hafren a Phont Britannia.

“Yng Nghymru, Swydd Efrog a de-orllewin Lloegr, bydd y glaw yn cyrraedd tua 30-50mm a hyd at 80-100mm mewn mannau uchel, yn bennaf yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

“Gall lleoliadau ar hyd Môr yr Iwerydd hefyd ddisgwyl gwyntoedd difrifol.”

Mae Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y DU, Elizabeth Truss wedi cynnal cyfarfod brys er mwyn cyd-lynu ymateb y Llywodraeth i’r glaw trwm sydd ar y ffordd.