Leighton Andrews
Bydd Aelodau Cynulliad yn cael eu hannog i wrthwynebu Mesur Undebau Llafur Llywodraeth Prydain heddiw mewn cynnig gerbron y Cynulliad.

“Mae’r Mesur yn niweidiol, yn gynhennus ac mae perygl y gallai danseilio gwasanaethau cyhoeddus a’r economi,” meddai’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews.

Yr wythnos ddiwethaf, ysgrifennodd at Nick Boles AS, Gweinidog Gwladol yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn rhybuddio am yr effaith negyddol y gallai’r Mesur ei gael yng Nghymru.

Dywedodd na fyddai’n derbyn y bil oni bai bod gwelliannau’n cael ei wneud iddo sy’n cynnwys neilltuo’r sector cyhoeddus yng Nghymru rhag cyflwyno trothwy o 40% o gefnogaeth aelodau cyn gweithredu’n ddiwydiannol yn y ‘gwasanaethau cyhoeddus pwysig’.

Mae hefyd am i Gymru gael ei neilltuo rhag cyflwyno gofynion a chyfyngiadau ar amser i weithgarwch yr undeb llafur yn y sector cyhoeddus ac am weld gwelliannau i’r trefniadau lle mae dyledion yn cael eu talu o gyflogau pobol yn y sector cyhoeddus.

Gwrthdaro rhwng cyflogwyr a’r gweithlu

“Rydym yn credu y bydd yn arwain at wrthdrawiad yn y berthynas rhwng cyflogwyr a’r gweithlu,” meddai Leighton Andrews.

“Mae’n hollol groes i’r dull adeiladol sydd gennym yng Nghymru gyda’i bwyslais ar bartneriaeth gymdeithasol – sef gwerthfawrogi’r gweithlu, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a hybu menter.

“Ar y cyfan, rydym yn credu bod y Mesur yn ddiffygiol ac na ddylid mynd rhagddo.”

“Mae rhannau sylweddol o’r Mesur yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli. Nid yw’n dderbyniol i Lywodraeth y DU geisio gorfodi’r Bil ar Gymru.”

Ym mis Medi, mynegodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei bryderon am y Mesur gan ysgrifennu at David Cameron yn nodi effaith y Mesur ac y dylai fod yn fater i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Plaid Cymru’n gwrthwynebu

Mae Plaid Cymru hefyd wedi datgan ei bwriad i wrthwynebu’r bil yn y bleidlais heddiw, gyda’r arweinydd, Leanne Wood, yn dweud ei fod yn ymyrryd â datganoli a gwasanaethau cyhoeddus.

Ym mis Tachwedd, ysgrifennodd at Carwyn Jones yn gofyn iddo geisio blocio’r bil.

“Mae Plaid Cymru yn erbyn Mesur Undebau Llafur Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn cefnogi partneriaeth yn lle,” meddai Leanne Wood.

“Mae Undebau Llafur yn chwarae rôl bwysig ac ni fydd lleihau’r rôl honno  yn helpu pobol sy’n gweithio, gyda’u cyflogau na’u hamodau gwaith.

“Dylai pob rhan o gymdeithas wrthod y bil hwn yn cael ei orfodi ar Gymru, ac rwy’n hyderus y bydd Aelodau Cynulliad o bleidiau gwahanol yn uno yn y bleidlais.”