Mae dyn 23 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr.

Bu farw’r dyn ar yr A40 ger Bancyfelin rhwng 5.30 nos Sadwrn a 12.40 fore Sul, a daeth yr heddlu o hyd i’w gar mewn cae cyfagos.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi apelio am wybodaeth.