Neil Hamilton
Mae cynghorydd blaenllaw dros Ukip wedi dweud wrth golwg360 nad yw am gael ei “gysylltu â pharasitiaid gwleidyddol fel Neil Hamilton a Mark Reckless”, yn dilyn ffrae dros ymgeiswyr y blaid yng Nghymru.

Dywedodd Kevin Mahoney, sydd ar Gyngor Bro Morgannwg, y byddai’n “anochel” y bydd yn gadael y blaid os bydd Ukip yn cyhoeddi heddiw fod Hamilton a Reckless wedi eu dewis yn ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

“Maen nhw’n bobol sy’n byw y tu allan i Gymru, sydd heb gyfrannu i Gymru ac sy’n anymwybodol o’r sefyllfa wleidyddol yng Nghymru,” meddai Kevin Mahoney wrth golwg360.

Cyfeiriodd at Mark Reckless a Neil Hamilton, dau fu’n Aelodau Seneddol mewn etholaethau yn Lloegr dros y Torïaid, fel “parasitiaid gwleidyddol sy’n troedio o gwmpas y wlad er eu budd eu hunain.

“Pam fyddai unrhyw un eisiau cael Neil ‘cash for questions’ Hamilton yn eu cynrychioli, does dim syniad gennyf.”

Hefyd mae Kevin Mahoney yn gwrthwynebu caniatau i Alexandra Phillips fod yn ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad.

Alexander Phillips yw swyddog y wasg arweinydd Ukip, Nigel Farage.

Hierarchaeth Farage

Pwysleisiodd Kevin Mahoney nad cenedligrwydd yr unigolion yw’r broblem, ond y ffaith bod yr ymgeiswyr arfaethedig yn “gwybod dim byd” am Gymru.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Nigel Farage fod cwestiynau’n ynglŷn â pham nad yw ymgeiswyr Ukip yng Nghymru yn dod o Gymru  yn codi ‘tôn annifyr cenedlaetholgar’, ond gwrthododd Kevin Mahoney hyn.

“Dydw i ddim yn derbyn hynny, dydy e ddim am genedligrwydd. Dydy llawer o bobol ddim yn gwybod, ond yn anffodus roedd Neil Hamilton wedi’i eni yng Nghymru, ond mae’n byw yn Lloegr ac wedi treulio ei yrfa wleidyddol aflwyddiannus yn Lloegr.”

Dywedodd y cynghorydd ei fod wedi cael ei ddewis gan bwyllgor gweithredol y blaid i sefyll dros ranbarth Canol De Cymru a bod “digon o ymgeiswyr abl” eraill yng Nghymru a allai sefyll yn yr etholiad.

Dydy’r blaid heb gyhoeddi ei hymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad eto, ond mae disgwyl iddyn nhw wneud hynny heddiw.