Fe gafodd 29 o bobol eu harestio mewn cyrch gan yr heddlu yn erbyn gwerthwyr cyffuriau yn y Cymoedd.

Roedd 14 warant wedi eu cyhoeddi ar gyfer y cyrch yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Roedd adran arfog ac adran gŵn Heddlu De Cymru yn rhan o’r ymgyrch gan weithio ar y cyd gydag asiantaethau eraill.

Yn ôl yr heddlu, fe fyddan nhw’n cynnal rhagor o gyrchoedd tebyg er mwyn ceisio chwalu’r farchnad gyffuriau.

‘Effaith anferth’

Roedd yr arestio ddoe yn dangos gwerth cael gwybodaeth gan y gymuned, meddai’r Prif Arolygydd Mike Mantripp a oedd yn arwain y cyrch.

“R’yn ni’n cydnabod bod gwerthu cyffuriau a defnydd cyffuriau yn ein cymuned yn gallu cael effaith anferth ar drigolion lleol,” meddai.

“Dyw gangiau o droseddwyr, sy’n gwerthu a dosbarthu cyffuriau, ddim yn poeni am effaith gwerthu cyffuriau ar ein strydoedd a’n cymunedau.”