Byddai'r tyrbin yng ngolwg Castell y Dryslwyn (Clare West CCA 2.0)
Mae arolygydd wedi cefnogi penderfyniad  i wrthod yr hawl i godi melin wynt 74 metr yng nghanol Dyffryn Tywi.

Cwmnïau o’r enw Carmarthenshire Energy a Seren wedi apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Gâr ar ôl iddyn nhw wrthod y cais ar sail prydferthwch yr ardal – yn agos at bentre’ Nantgaredig a heb fod ymhell o Gastell y Dryslwyn.

‘Anghydnaws’

Fe gytunodd yr arolygydd, Hywel Wyn Jones, y byddai’r datblygiad yn “effeithio ar brydferthwch naturiol yr ardal”.

“Rwy’n ystyried bod cyflwyno tŵr modern yn y safle arfaethedig yn cael ei weld yn anghydnaws…gyda Castell y Dryslwyn a Thŵr Paxton yn rhan o dirwedd y dyffryn,” meddai.

Fe geisiodd Golwg360 gysylltu gyda Chwmni Carmarthenshire Energy ond nid oedd neb ar gael i wneud sylw.