Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Bydd seminar yn cael ei chynnal yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw i godi ymwybyddiaeth mudiadau yn y trydydd sector y tu allan i Gymru o statws swyddogol y Gymraeg.

Bwriad y seminar yw dangos sut gall y mudiadau hynny ddatblygu a defnyddio’r iaith wrth ddarparu eu gwasanaethau yng Nghymru.

Bydd y seminar yn cael ei chynnal gan Gomisiynydd y Gymraeg, sy’n dweud ei bod yn “gyfle i rannu gwybodaeth â sefydliadau Prydeinig” am y cymorth y mae hi’n gallu ei gynnig iddyn nhw o ran y Gymraeg.

“Am y tro cyntaf mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Gall pobl, beth bynnag fo’u hoed, cefndir neu ardal, ddisgwyl cael yr hawliau i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Meri Huws.

“Mae’r trydydd sector yn chwarae rôl cynyddol bwysig wrth gynnig gwasanaethau i bobl yng Nghymru.

“Mae hyn yn arbennig o wir mewn meysydd fel gofal, eiriolaeth a chyngor lle mae cyfathrebu’n iaith yr unigolyn yn rhan mor greiddiol o’r gwasanaeth, a hefyd mewn cyd-destunau cymdeithasol fel chwaraeon a chlybiau ar ôl ysgol.”

Chwaraeon drwy’r Gymraeg

Mae’r digwyddiad yn cael ei noddi gan y Farwnes Tanni Grey-Thompson, sydd eisiau gweld gweithgareddau chwaraeon y trydydd sector yn cynyddu eu gwasanaethau Cymraeg.

“Wrth i bobl ifanc ymarfer a datblygu eu Cymraeg drwy gymryd rhan yng ngweithgareddau’r trydydd sector bydd llawer o ddrysau yn agor iddynt – yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac wrth ddatblygu sgiliau ar gyfer y byd gwaith,” meddai.

Yn ôl y cyn athletwr, byddai creu rhagor o weithgareddau chwaraeon drwy’r Gymraeg yn sicrhau bod plant yn “gwirioni” ar yr iaith.

Gwirfoddolwyr yn bwysig i’r iaith

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a fydd yn rhan o’r seminar, ei bod am roi ‘sylw arbennig’ i rôl gwirfoddolwyr wrth siarad am bwysigrwydd y Gymraeg yn y trydydd sector.

“Drwy wirfoddoli, gall sefydliadau roi cyfle i bobl gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu ymarfer eu sgiliau a gwella eu hyder a’u rhuglder yn yr iaith mewn sefyllfa anffurfiol,” meddai.